Er mwyn ymateb i’r diffyg darpariaeth mewn cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr, ac i geisio mynd i’r afael â hyn, mae prosiect Nurture-U wedi ei ddatblygu gan Brifysgol Caerwysg, ar y cyd gyda Phrifysgolion Caerdydd, Rhydychen, Newcastle, Southampton, a Choleg y Brenin Llundain. Y nod yw deall mwy ar sail profiadau myfyrwyr, a hynny er mwyn gwella’r gwasanaethau lles sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd.
Esboniodd yr Athro Ed Watkins, sef Prif Ymchwilydd Nurture-U, nod y prosiect hwn:
“Daw’r rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl i’r amlwg rhwng 12 a 24 oed, felly mae myfyrwyr prifysgol yng nghanol yr ystod honno. Ar ben hynny, mae bywyd prifysgol yn dod ag achosion straen unigryw, gan gynnwys yr her o addasu i fywyd i ffwrdd o gartref, rheoli arian, gwneud ffrindiau newydd, a heriau academaidd.
“Gwyddom fod gan nifer o fyfyrwyr lefelau uchel o orbryder ac iselder, a’n nod yw ceisio pontio’r bwlch rhwng anghenion y myfyrwyr a’r gwasanaethau sydd ar gael i’w cefnogi yn y brifysgol ar hyn o bryd.
“Er ein bod ni’n gwybod pa ddulliau sy’n debygol o fod yn fwyaf defnyddiol, nid yw’r rhain eto wedi’u profi yng nghyd-destun y brifysgol, a dyma un o brif amcanion Nurture-U.”
Hyd yma, mae dros 11,000 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg sy’n cael ei gynnal ddwywaith y flwyddyn, ac mae’r canfyddiadau cychwynnol yn dangos bod lefelau uchel o orbryder ac iselder ymysg myfyrwyr, tra bod hanner y cyfranogwyr yn disgrifio lefelau uchel o unigrwydd.
Mae’r canfyddiadau hyn wedi arwain at ddatblygu dau dreial newydd i brofi effeithiolrwydd rhaglen les ddigidol sy’n canolbwyntio ar hunan-barch a hyder, yn ogystal â rhaglen therapi hunan-dywysedig yn erbyn rhaglen therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) a arweinir gan therapydd. Mae’r astudiaethau hyn yn agored i fyfyrwyr ledled y DU.
Dywedodd Ymchwilydd NCMH, Gabriella Dattero Snell, sy’n gweithio ar y prosiect:
“Gall ymchwilio i iechyd meddwl myfyrwyr fod â manteision hirdymor i les a llwyddiant cyffredinol mewn bywyd.
Trwy roi’r cymorth a’r adnoddau cywir sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ffynnu, gallwn roi’r sgiliau a’r gwytnwch sy’n hanfodol iddynt i lywio bod yn oedolion.
Mae Nurture-U hefyd yn treialu pecyn cymorth digidol newydd ar les i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’r adnoddau a’r cymorth cywir sydd ar gael yn eu prifysgolion. Gwneir hyn er mwyn grymuso’r myfyrwyr i eirioli dros eu lles personol eu hunain.
“Bydd myfyrwyr sy’n defnyddio’r pecyn cymorth lles hefyd yn cael eu hannog bob wythnos i ateb ychydig o gwestiynau byr a fydd yn helpu ymchwilwyr i geisio deall sut y gall lles myfyrwyr newid dros amser.”
Cofrestrwch i ddefnyddio’r pecyn cymorth lles heddiw
Mynnwch ragor o wybodaeth am y pecyn cymorth lles heddiw
Darllen Mwy
Nurture-U | Beth yw Nurture-U?
NCMH | Prosiect iechyd meddwl cenedlaethol myfyrwyr yn dod i Gaerdydd