Piece of Mind: ail-lansio ein podlediad iechyd meddwl

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi cyfres newydd o Piece of Mind: Mental Health & Psychiatry – lle rydyn ni’n trin a thrafod yr ymchwil iechyd meddwl diweddaraf a’r straeon personol pwerus sy’n ei lunio.

Mae pob pennod, sy’n cael eu cyflwyno gan y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl, yn dod ag ymchwilwyr, clinigwyr, a phobl â phrofiad byw ynghyd i gael sgyrsiau gonest a hygyrch am iechyd meddwl.

Yn ystod y ddwy gyfres rydyn ni wedi dadansoddi pynciau cymhleth ac wedi cysylltu’r ymchwil iechyd meddwl ddiweddaraf â phrofiadau yn y byd go iawn. Rydyn ni wedi trafod amrywiaeth o bynciau pwysig, gan gynnwys:

  • Anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth (cPTSD)
  • Anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) mewn merched a menywod
  • Anhwylder Dysfforig Cyn y Mislif (PMDD) ac iechyd meddwl

Ar y gweill

Oherwydd y galw mawr a’r ffaith ein bod wedi cyrraedd 76,657 lawrlwythiad, rydyn ni’n dod â chwe phennod newydd i chi yn trafod:

  • Therapi MDMA ar gyfer PTSD sy’n gwrthsefyll triniaeth
  • Gwybyddiaeth ac iechyd meddwl
  • Dogfennau dewis uwch: gwneud penderfyniadau ar gyfer pan fyddwn ni’n sâl
  • Sut beth yw profi seicosis
  • Cefnogaeth i bobl ifanc sy’n profi seicosis yng Nghymru
  • Anhwylder deubegynol a hunanladdiad

Gallwch ddod o hyd i Piece of Mind ar SpotifyApple podcasts ac Acast.

Rydyn ni’n angerddol am wneud ymchwil iechyd meddwl yn fwy cynhwysol ac effeithiol – ac rydyn ni’n credu bod rhannu profiadau yn rhan hanfodol o’r genhadaeth honno.