Mae Gerraint Jones-Griffiths, Cydymaith Ymchwil Anrhydeddus NCMH, wedi ennill Gwobr fawreddog David Granger yn seremoni wobrwyo Cymdeithas Cyflogaeth â Chymorth Prydain (BASE) ym Manceinion.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ddydd Mawrth 19 Tachwedd ac fe ddathlodd y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y DU i newid a chyfoethogi bywydau pobl anabl a niwroamrywiol drwy gynnig cyflogaeth â chymorth.
Cyflwynir Gwobr David Grainger i unigolyn â phrofiad bywyd sy’n ysbrydoli eraill i anelu’n uchel ym maes cyflogaeth a newid canfyddiadau ynghylch yr hyn y gall pobl anabl ei gyflawni.
Gwaith rhagorol yn rhan o brosiect Engage to Change NCMH
Enwebwyd Gerraint gan Dr Elisa Vigna ac Andrea Meek am ei waith rhagorol fel Cynorthwyydd Ymchwil Anrhydeddus NCMH, ac fel llysgennad arweiniol i brosiect Engage to Change. Mae’r prosiect hwn wedi helpu dros 1,000 o bobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i ennill sgiliau gwaith neu gael cyflogaeth â thâl ledled Cymru.
Yn ei rôl, mae Gerraint wedi cynnal ymchwil ar y cyd, rhannu ei waith ag eraill, a chael effaith o fewn y tîm i herio canfyddiadau ynghylch cyflogaeth i unigolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.
“Mae Geraint wedi chwarae rhan ganolog wrth ein cynghori a’n harwain i ddatblygu dulliau ymchwil hygyrch ac allbynnau. Ar ben hynny, mae wedi ysbrydoli ymagwedd gyd-gynhyrchiol rhwng ymchwilwyr a phobl sydd â phrofiad bywyd.
Elisa ac Andrea o Brosiect Engage to Change NCMH
Mae wedi arwain cyflwyniadau sy’n gwneud yn siŵr bod ystadegau ac allbynnau ymchwil ar gael i bobl ag anableddau dysgu. Mae hefyd wedi manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo cyflogaeth i bawb, gan ddefnyddio ei brofiad ei hun fel enghraifft o’r hyn y gellir ei gyflawni.”
Hyrwyddo cynhwysiant ym maes cyflogaeth
Yn ogystal â derbyn gwobr, rhoddodd Gerraint gyflwyniad ar y prif lwyfan i dros 400 o bobl yng nghynhadledd BASE (dolen i wefan BASE) am ei waith fel llysgennad dros gyflogaeth â chymorth.
Yn rhan o’r gwaith hwn, mae wedi rhoi cyflwyniadau i gyflogwyr, darparwyr addysg, pobl ifanc anabl, rhieni, gofalwyr ac academyddion. Mae hefyd wedi hyrwyddo cynhwysiant ym maes cyflogaeth drwy gyd-ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant ‘Awtistiaeth a Niwroamrywiaeth mewn Cyflogaeth’ o safbwynt profiad bywyd gyda’r tîm ymchwil. Ar ben hynny, mae’n hyrwyddo cyfathrebu hygyrch mewn arferion recriwtio ar draws y brifysgol a thu hwnt.
Hefyd, mae Gerraint wedi eirioli dros gyflwyno newidiadau i bolisïau cyflogaeth gydag aelodau o Senedd Cymru, gan godi proffil cyflogaeth â chymorth i bobl ag anableddau dysgu ar draws Cymru.
Eirioli ar ran unigolion â niwroamrywiaeth ac anableddau
Mae Gerraint yn defnyddio ei sgiliau a’i wybodaeth unigryw yn ei rôl fel Cydymaith Ymchwil Anrhydeddus. Mae’n ymgorffori gweithio ar y cyd yn naturiol gan geisio cynnig atebion i’r heriau a wynebir. Mae’n defnyddio ei lais fel hunan-eiriolwr i gynnwys ac annog eraill ag anableddau dysgu ac awtistiaeth i wthio am addasiadau, cefnogaeth a’r hawl i gael gyrfa dda.
“Doeddwn i wir ddim yn disgwyl hyn. Diolch i Andrea Meek a Dr Elisa Vigna o’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl am fy enwebu. Diolch i Angela Kenvyn yn Anabledd Dysgu Cymru am eich cefnogaeth, ac i Gymdeithas Cyflogaeth â Chymorth Prydain.
Gerraint
Fel y gwnes i sôn yn fy araith ar ôl derbyn y wobr, dydw i ddim yn gwneud hyn i gael cydnabyddiaeth. Dwi’n ei wneud am fy mod eisiau gwneud gwahaniaeth. Rydw i wedi fy syfrdanu!”
Rhagor o wybodaeth
- Gwyliwch Gerraint yn derbyn ei wobr!
- Cewch ragor o wybodaeth am brosiect Engage to Change drwy ebostio: E2C@caerdydd.ac.uk