Yr hyn y gall gweithio ar y cyd ei wneud wrth godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion
Yn y cyfnod cyn Mis Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Dynion, aeth y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl i ddigwyddiad wedi’i drefnu gan y Ganolfan Treialon Ymchwil, ar y cyd ag Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru, The Lions Barber Collective, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Canmlwyddiant Stephens and George i hyrwyddo iechyd meddwl dynion.
Cynhaliwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Lles Dynion yng Nghanolfan Gymunedol Dowlais. Roedd yn agored i’r cyhoedd gael eu gwallt wedi torri am ddim a chael lluniaeth, ac roedd ystod eang o stondinau gyda gwybodaeth ac adnoddau am iechyd meddwl a lles.
Mae gwaith i’w wneud o hyd.
Yn y gorffennol, mae dynion wedi cael eu hystyried yn grŵp ddemograffig anodd ei gyrraedd gyda negeseuon am iechyd meddwl. Er bod pethau wedi newid rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf, mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai dynion mai dynion yw tri chwarter yr achosion o hunanladdiad.
Eglurodd Dr Sarah Rees, arweinydd cynnwys y cyhoedd yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl: “Mae ymwybyddiaeth am hunanladdiad ac atal hunanladdiad yn rhan enfawr o’r drafodaeth am iechyd meddwl dynion.”
Mae atal hunanladdiad yn rhywbeth y mae Tom Chapman, sylfaenydd The Lions Barber Collective, yn angerddol drosto. Grŵp rhyngwladol o farbwyr sydd wedi cael hyfforddiant mewn cymorth cyntaf iechyd meddwl yw’r Lions Collective. Maen nhw’n cynnig digwyddiadau untro wedi’u hanelu at ddynion yn eu milltir sgwâr, a hynny er mwyn cynnig lle diogel i siarad am les meddyliol. Rhoddodd y barbwr gyflwyniad ar ddechrau’r digwyddiad i’w gyd-farbwyr, yn ogystal â thrinwyr gwallt, tatŵ-wyr a gweithwyr harddwch, yn y gobaith o’u hysbrydoli i ymgymryd â hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl.
Bu Dr Claire Nollett o’r Ganolfan Treialon Ymchwil yn gwerthuso profiadau cleientiaid gyda’r barbwyr ar y diwrnod. “Nod y digwyddiad oedd rhoi cyfle i ddynion na fyddai ganddyn nhw fel arall i siarad am eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl i’r barbwyr, a fyddai wedyn yn gallu eu cyfeirio at y cymorth sydd ar gael.”
Effaith gadarnhaol ar y gymuned leol
Fe ddaeth dynion o bob oed i’r digwyddiad, a dywedodd grwpiau partner fod effaith gadarnhaol wedi bod ar y gymuned leol drwy’r sgyrsiau niferus ynghylch iechyd meddwl a lles ddigwyddodd yn ystod y diwrnod.
Dangosodd y diwrnod sut y mae dod â gwasanaethau statudol, elusennau a chanolfannau ymchwil ynghyd i dynnu sylw at fater mor bwysig yn dod â’r manteision mwyaf posibl i bawb dan sylw, gan osod y sylfeini ar gyfer digwyddiadau a chydweithio yn y dyfodol.
Mae timau’r Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl a’r Ganolfan Treialon Ymchwil yn gobeithio eich gweld chi mewn digwyddiad arall yn fuan!